Tystiolaeth
Cyngor Tref Aberystwyth i’r Pwyllgor Tai a Llywodraeth Leol
– Yr Hawl i Gael Tai Digonol
Mae sawl problem
sy’n gysylltiedig â’r fater sy’n effeithio
ar bobl yn ardal Aberystwyth:
- Mae safon llety
rhent a thai aml-meddiannu yn isel mewn sawl achos. Mae llawer o
denantiaid yn profi problemau gyda llwydni, problemau strwythurol,
llygod mawr ayyb ac mae rhai ohonynt yn ofn cwyno.
- Mae llawer o
denantiaid ar gytundebau go ansegur ac heb lawer o sicrwydd am
faint mor hir mae nhw’n cael aros yn eu llety.
- Mae’r
farchnad rhent wedi colapsio gyda nifer cyfyngedig iawn o eiddo ar
gael i rentu. Mae tenantiaid yn cael eu gorfodi o’u cartrefi
heb wneud dim byd o’i le ac yno’n methu dod o hyd i
rywle arall i fyw.
- Mae’r
Cyngor Sir yn amlwg yn cael trafferthion mawr wrth ddal
landlordiaid i gyfrif. Yng Ngheredigion y llynedd roedd 382 cais am
gymorth yn gorfodi landlordiaid i wella safon llety ond dim ond 3
gorchymyn a roddwyd i landlordiaid. Mae hyn yn awgrymu nag
yw’r cyfreithiau a threfniadau ar gyfer atebolrwydd
landlordiaid yn hawdd na chyflym i’w defnyddio a dylid
hwyluso awdurdodau lleol i reoleiddio’r sector yn fwy
effeithiol.
- Ymddengys bod
rhai landlordiaid ddim ar y rhestr, sydd yn creu problemau wrth
drio dal nhw yn atebol.
- Yn ddiweddar,
roedd rhestr aros ar gyfer llety argyfwng gan y Cyngor Sir. Bellach
mae’r Cyngor Sir wedi llwyddo cael gwared a hyn ond ni wyddys
a fydd hyn yn digwydd eto.
- Ar yr un pryd mae
rhai tai/fflatiau yn wag, eraill yn ail gartrefi ac eraill
wedi’u troi’n AirBnB.
- Mae’r
diffyg llety am bris rhesymol yn effeithio ar y gallu i ddenu/cadw
gweithwyr allweddol.
- Mae’r
diffyg llety am bris sy’n fforfiadwy ar gyflog lleol yn
ffactor yn yr allfudiad o bobl ifanc, sy’n cael effeithiau
negyddol o ran iaith, diwylliant, yr economi lleol, gwasanaethau
cyhoeddus a gwead y gymuned.
- Mae rhai pobl
â theuluoedd mewn tai sy’n rhy fach iddynt.
- Mae rhai pobl
hŷn a fyddai’n awyddus i symud i rywle llai ond oherwydd
diffyg darpariaeth i “brynwyr tro olaf” (hygyrchedd,
rheiliau ayyb) mae nhw’n parhau i fyw mewn tai
mawr.
- Mae rhai pobl yn
cael cynnig llety cymdeithasol ymhell tu allan i’r dref ac
mae diffyg a dirywiad mewn trafnidiaeth cyhoeddus yn eu hatal rhag
symud mewn, neu eu hatal rhag gweithio, os nag oes car
ganddynt.
O ran
sefydlu’r hawl i gartref digonol, awgrymwn y
canlynol:
- Diwygio’r
teitl i ddweud Yr Hawl i Gael Llety Digonol yn Lleol
- Gosod dyletswydd
statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl leol yn gallu cael
llety digonol yn lleol (o fewn amser teithio rhesymol ar
drafnidiaeth cyhoeddus/teithio llesol).
- Ariannu
awdurdodau lleol yn ddigonol i gyflawni hyn.
- Asesu’r
gwir angen am lety ym mhob ardal ar lefel cymuned, gan gynnwys yr
union mathau o lety sydd angen, a defnyddio hyn i ddiwygio
cynlluniau datblygu lleol.
- Hwyluso’r
drefn o sicrhau bod landlordiaid yn cyrraedd y safon priodol o ofal
am eu tenantiaid, gan gynnwys creu pecyn cyngor/cymorth i helpu
awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r
broblem.
- Sefydlu
mechniaeth i orfodi awdurdodau lleol a darparwyr tai i gyflawni eu
dyletswyddau a sicrhau bod yr holl llety sydd o dan eu gwarchodaeth
yn addas i fodau dynol byw ynddo.
- Mae angen sicrhau
bod pob landlord ar y cofrestr
- Cryfhau hawliau
tenantiaeth, gan gynnwys gwarchod tenantiaid o gael eu troi allan
yn ddi-fai os ydynt yn cwyno. Sefydlu cytundebau hirach, mwy segur,
sydd ond yn dod i ben gyda chytundeb y tenant neu oherwydd
i’r tenant dorri’r cytundeb.
- Sicrhau bod mwy o
lety’n cael ei darparu ar gyfer “prynwyr tro
olaf” sy’n cwrdd â safonau o ran iechyd,
diogelwch a lles pobl hŷn (a gan hynny rhyddhau tai
teuluol).
- Camau pellach i
reoli ail-gartrefi ac eiddo AirBnB oedd gynt yn llety
preswyl.
- Cyflwyno mesurau
ychwanegol i ddod ag adeiladau gwag nôl mewn i ddefnydd
preswyl.